Y pêl-droedwr du cyntaf i chwarae i Gymru

Yn y blog post yma – fersion o hyn a ymddangosodd yn gyntaf ar Parallel Cymru – mae Matthew Jones yn cofio’r pêl-droedwr du cyntaf erioed i wisgo crys coch Cymru.

Fel cynifer o bobl, ges i gwpwl o ddiwrnod gwych fis Awst diwethaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd. Tra yno fuddsoddais i mewn crys-T newydd ffynci: un aur gyda darlun o George Berry ar y blaen. Fe gymerodd hwn fi yn ôl i beth ymchwil wnes i ddegawd yn gynharach wrth lunio’r Llyfr Cwis Chwaraeon Cymru.

Sponsored Links

Roedd George Berry yn amddiffynwr canolog a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei amser gyda Wolverhampton Wanderers (1976-82) a Stoke City (1982-90). Roedd yn rhan o dîm Wolves o dan arweiniad Emlyn Hughes a enillodd Cwpan Cynghrair Lloegr yn 1979-80 gyda buddugoliaeth 1-0 dros Nottingham Forest.

Wedi’i eni yng Ngorllewin yr Almaen i dad Jamaicaidd a mam Cymreig, gwnaeth George Berry chwarae ei gem ryngwladol gyntaf ym mis Mai 1979 yn erbyn gwlad eienedigaeth wrth i Gymru golli 2-0. Ef oedd yr unig chwaraewr du yn y tîm. Byddai’n ddiweddarach yn mynd ymlaen i ennill 4 cap rhyngwladol ychwanegol.

Chwe mis yn flaenorol, gwnaeth yr amddiffynnwr o Nottingham Forest, Viv Anderson, chwarae ei gem gyntaf i Loegr yn erbyn Tsiecoslofacia ac wrth neud hyn bod y chwaraewr du cyntaf i wisgo’r Dri Llew. Mae hwn yn gwestiwn adnabyddus ond nid yw lot yn medru dweud pwy oedd y chwaraewr du cyntaf i chwarae i Gymru? Mae llawer yn credu mai George Berry oedd e.

Fodd bynnag, mae’r gwirionedd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol. Gwnaeth y chwaraewr du cyntaf wisgo coch Cymru 47 mlynedd cyn i Viv Anderson wneud yr un peth i Loegr.

Ganwyd John Edward ‘Eddie’ Parris ym Mhwllmeyric ger Cas-gwent ym mis Ionawr 1911 i fam wen o Loegr a dad du o Farbados (hefyd gyda’r enw John Edward). Roedd yn asgellwr chwith gyda llygad am gôl, gan ddechrau ei yrfa gyda Thref Cas-gwent cyn troi’n brofesiynol gyda Bradford Park Avenue ac yna Bournemouth a Thref Luton, lle oedd e y chwaraewr du cyntaf erioed y clŵb. Ar ôl ei flynyddoedd cynnar yng Nghas-gwent, magwyd Parris yn Dock Street yng Nghasnewydd.

Ym mis Rhagfyr 1931 gwnaeth ei unig ymddangosiad mewn crys Cymreig yn erbyn Iwerddon ym Mharc Windsor, Belfast fel un o bedwar ‘debutants’. Wrth wneud hyn, fe oedd y chwaraewr du cyntaf i chwarae i Gymru. Enillodd yr ochr gartref 4-0 gyda ddau gôl i Jimmy Kelly ynghyd ag un yr un i Willie Millar a Joe Bambrick. Nid yw’r gêm ei hun yn arwyddocaol yn hanes pêl-droed Cymru ond mai ymddangosiad Eddie Parris. Mae’n rhanbwysig o’r newid cymdeithasol a diwylliannol a welir yn y wlad sydd wedi cael ei anwybyddu yn anffodus.

Mae’n anodd i wybod pa fath o groeso y buasai Parris yn ei dderbyn yn Belfast, neu oddi wrth ei gyd-chwaraewyr a detholwyr Cymru, ond ni fu chwarae eto i Gymru. Er cawsai llawer o chwaraewyr yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yrfaoedd rhyngwladol byrhoedlog, mae’n anodd i fod yn hyderus ni chwaraeodd hiliaeth ei rhan.

Parheuodd gyrfa pêl-droed Parris ac yn ddiweddarach symudodd e i’r di-gynghrair ac yna setlodd e yn Swydd Gaerloyw, lle fyddai’n gweithio’n ddiweddarach mewn ffatri awyrennau. Bu farw ym 1971 tipyn dros y ffin yn Sedbury.

Ni fydd Eddie Parris byth yn cael ei ddewis ar gyfer y tîm Cymru gorau erioed; ni fyddai hyd yn oed yn gwneud y rhestr o 500 chwaraewr rhyngwladol gorau Cymru. Fodd bynnag, mae’n ddyn ei fod yn haeddu ei gofio am ei farc ar hanes diwylliannol a chymdeithasol Cymru.

Ymchwiliad ychwanegol gan Russell Todd

You may also like...

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

four × 1 =