Blognod gwadd: #GorauChwaraeCydChwarae (yn Gymraeg / in Welsh)
Yn y blognod gwadd yma mae Dai Lingual yn dadlau mai un o’r ffactorau pam lwyddodd y tîm yn yr haf yw bod y Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn cydnabod rôl a buddsoddiad cefnogwyr, mewn cyferbyniad â’r Undeb Rygbi Cymru. Ar ben hynny mae Gymraeg wedi’i lleoli ar galon yr ymdrechion hyn.
Wel dyna hi felly. #GorauChwaraeCydChwarae
A dyna ni.
Am fis.
Am freuddwyd.
And all that yndyfe.
Mae lot wedi cael ei drafod ynglŷn â phaham – neu sut – lwyddodd tîm peldroed Cymru ( peldroed, the cheek of it!) i gyrraedd pedwar olaf twrnament “go iawn” – fel mae’r tîm rygbi eisoes wedi gwneud wrth gwrs.
Ond, tra bod rygbi yn gêm sy’n cael ei chwarae o ddifri gan ddeg gwlad ar y mwyaf, roedd pob un (wele Gwlad yr Iâ) o dimau #Euro2016 yn deilwng o’u lle yng nghystadleuaeth…cystadleuol ar y naw.
Waeth mod i ddim yn gadael fy arbenigedd i fel cefnogwr Cymru [wele hefyd @undebcymru ] sydd wedi buddsoddi yn frwd ac yn eang yn chwaraeon Cymru i ddweud hyn: mae Cymdeithas Pêl Droed Cymru @fawales yn haeddu pob clod, yn arbennig o gymharu eu campwaith â’u cyfoedion yn the Welsh Rugby Union.
Cyn cael plant (sydd nawr wrth reswm yn diodde o’r un clefyd Cymreigaidd a’r un symptomau o salwch- a blinder- heddiw) roeddwn i a fy ffrindiau yn gynulleidfa bodlon a hapus i dîm cenedlatethol Cymru ar y maes rygbi, yn arbennig ar ôl cael y fraint digymysg o weld Scott Gibbs yn sgorio’r cais fuddugol yn erbyn Lloegr yn Wembley bron i ugain mlynedd yn ôl.
Ac yna, yn di-feddwl i o leiaf un gêm bob blwyddyn, yn rhoi ein harian yn hapus gan obeithio efallai bydde’r arian yna yn cael ei fuddsoddi i glybiau llawr gwlad fel Aberystwyth RFC a roddodd gymaint o’i amser ac adnoddau i dîm rygbi Penweddig a gurodd pawb i fod yn bencampwyr WRU dan-16 pan oedden i’n 15 …ac yn chwarae ar yr asgell!
Ond, parhau i dyfu fel Busnes gwnaeth WRU Roger Lewis tan yn ddiweddar iawn, heb feddwl dwywaith am anghenion angerddol y Cymry Cymraeg oedd yn eu cefnogi pob cam – oedden, mi oedden ni yn “taken for granted” a mi ddaeth hynny yn fwyfwy i’r amlwg wedi imi ddychwelyd i Gymru wedi cyfnod yn byw bant yn Llundain – a hyd yn oed chwarae i London Welsh (Occasionals XV!) tan i’r “diwylliant” yfed ddod yn ormod imi- a mi dyfes i fyny yn Aberystwyth !!
Daeth pen ar y nonsens o gefnogi tîm y WRU- a ie mae #TogetherStronger yn gywir, tîm o’r top i’r gwaelod sy’n bwysig- wedi chwalad corfforol a meddyliol ar ôl talu dros £50 i weld gêm “brawf” anghyfeillgar rhwng Cymru a Samoa. Jôc sâl.
Ac ers hynny, dim ond talu arian i’r FAW dwi wedi neud. Aelodaeth, gemau i’r holl deulu, a ie digon teg, wrth imi heneiddio bydde dyn yn disgwyl fy mod i’n buddsoddi yn fwy ofalus, ond beth ma hynny’n awgrymu am WRU sydd â model busnes sy’n targedu bobl feddw o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru – sef y Cymoedd a Llanelli gan fwyaf. Mae yna enw (drwg) ar bobl o’r fath.
Felly, un o’r rhesymau fwyaf i mi bod Cymru wedi llwyddo gymaint yr haf ‘ma yw eu bod yn cydnabod rôl a buddsoddiad y cefnogwyr. Yn wir, i ategu arbenigwr ex-pro neithiwr, efallai buasai Gary Speed wedi medru arwain yr un tîm i’r un llwyddiant, fel pobl rydyn ni bownd o greu naratif ble mae unigolion yn hollbwysig, ond hoffwn gymryd y cyfle yma i awgrymu mai polisi dwyieithog yr FAW wnaeth hi mor hawdd i bobl dros Gymru gyfan eu dilyn i Ffrainc. Cymru Cymraeg oedden i’n gweld yn ystod y cyfnod heriol, anodd, amhleserus pan oedd Stadiwm y Mileniwm 4/5 yn wag, nid session drinkers o’r Valleys.
Sut arall esboniwch chi clywed ‘Calon Lân’ a’r anthem yn cael eu canu mor dda yn ystod y gemau yn Ffrainc?
Mae’r FAW wedi cefnogi’r iaith gyda nid dim ond eu polisiau ond hefyd eu rhaglenni, eu trydar, eu cynhadleddau gwasg dwyieithog gwych; ac felly mae’r Cymry Cymraeg wedi parhau i’w cefnogi trwy bob dim, ac o’r diwedd cafwyd wobr. Ac am wobr.
Felly mae buddsoddiad yn y Gymraeg yn fuddsoddiad i’r dyfodol, a gwae yr WRU i wneud eu cyn-cefnogwyr fel fi i bledio gyda nhw am drugaredd.
Gyda llaw, un pwrpas i’r ffrwd yma oedd cefnogi a sicrhau defnyddio eang o #GorauChwaraeCydChwarae gan ddiolch i gymuned Swyddle am rannu’ run weledigaeth.
Wnaeth FAW bwdi o weld bod cefnogwyr selog Cymru yn gwneud defnydd fwy eang o chwedl y crys #GorauChwaraeCydChwarae na’r ôl-gyfieithiad trwsgwl a Llafur-aidd #GydanGilyddynGryfach ?
Na, naethon nhw ddim pwdi. Os sylwoch chi ar eu ‘branding’ yn Dinard (lleoliad campus!) newid y drefn wnaethon nhw i ddefnyddio #GorauChwaraeCydChwarae …dyma undeb chwaraeon sy’n gwrando ar eu cefnogwyr ac felly’n cynnal cynulleidfa teithiol eang a phoblog a oedd yn 12fed dyn yn Ffrainc. Manic…